Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022
Amser:
09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13035
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Jayne Bryant AS Ken Skates AS, Comisiynydd Gillian Baranski, Arolygiaeth Gofal Cymru Vicky Poole, Arolygiaeth Gofal Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jayne Bryant AS, a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau 1-5, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer eitem 8 gan Jack Sargeant AS. Dirprwyodd KS ar ei ran ar gyfer yr eitem honno.
2 Sganio’r gorwel ym maes gofal cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru.
2.2 Cytunodd Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu’r eitemau a ganlyn:
Manylion y gwaith a gaiff ei wneud i wella arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector gofal cymdeithasol.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog mewn perthynas â chraffu ar oblygiadau ariannol Biliau
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.5 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cadernid Meddwl
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.6 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.8 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am ragor o eglurder a gwybodaeth.
3.9 Llythyr gan Awdurdod Ystadegau'r DU ynghylch adroddiadau'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau
3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.10Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Sganio’r gorwel ym maes gofal cymdeithasol: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Llywodraeth Cymru, a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.
7 Craffu ar waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru: trafod y llythyrau drafft
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnwys y llythyrau drafft at Iechyd a Gofal Digidol Cymru a phrif weithredwyr y byrddau iechyd.
8 Anghydraddoldebau iechyd meddwl – trafod yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried unrhyw newidiadau dros e-bost.